Rheoliadau drafft a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan baragraff 1(9) o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, i’w cymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru

2020 Rhif (Cy. )

YMADAEL Â’R UNDEB EWROPEAIDD, CYMRU

GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU

CYMWYSTERAU PROFFESIYNOL, CYMRU

 

Rheoliadau Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymwysterau) (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) (Diwygio) 2020

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 1(1) o Atodlen 2 a pharagraff 21 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16), er mwyn ymdrin ag unrhyw fethiant yng nghyfraith yr UE a ddargedwir i weithredu’n effeithiol a diffygion eraill sy’n deillio o ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd.

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau i Reoliadau Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymwysterau) (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019 er mwyn ychwanegu darpariaeth drosiannol ychwanegol sy’n ymwneud â’r canlynol—

- cytundeb hawliau dinasyddion Cymdeithas Masnach Rydd Ewrop (EFTA) yr AEE a lofnodwyd yn Llundain ar 2 Ebrill 2019 rhwng Gwlad yr Iâ, Tywysogaeth Liechtenstein, Teyrnas Norwy a’r Deyrnas Unedig ar drefniadau ynghylch hawliau dinasyddion yn dilyn ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd a Chytundeb yr AEE, ac

- y cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd a lofnodwyd yn Bern ar 25 Chwefror 2019 rhwng y Deyrnas Unedig a Chydffederasiwn y Swistir ar hawliau dinasyddion yn dilyn ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd a’r cytundeb ar symudiad rhydd personau,

i’r graddau y mae’r cytundebau hynny yn ymwneud â chydnabod cymwysterau proffesiynol yn gilyddol a darparu gwasanaethau proffesiynol dros dro ac yn achlysurol.

Mae’r Rheoliadau hefyd yn cywiro mân wallau yn Rheoliadau Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymwysterau) (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

 

 


Rheoliadau drafft a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan baragraff 1(9) o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, i’w cymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru

2020 Rhif (Cy. )

YMADAEL Â’R UNDEB EWROPEAIDD, CYMRU

GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU

CYMWYSTERAU PROFFESIYNOL, CYMRU

 

Rheoliadau Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymwysterau) (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) (Diwygio) 2020

Gwnaed                                                 ***

Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2)

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 1(1) o Atodlen 2 a pharagraff 21 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018([1]), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Yn unol â pharagraff 1(9) o Atodlen 7 i’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad.

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli

1.(1)(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymwysterau) (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) (Diwygio) 2020.

(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym yn union cyn y diwrnod ymadael.

(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio Rheoliadau Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymwysterau) (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019

2. Mae Rheoliadau Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymwysterau) (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019([2]) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

Mewnosod darpariaeth ddehongli

3. Yn Rhan 2, o flaen rheoliad 16 mewnosoder—

Dehongli Rhan 2

15A.—(1) Yn y Rhan hon—

ystyr “contract presennol” (“existing contract”) yw contract ysgrifenedig a gwblhawyd, ac y dechreuwyd ei gyflawni, cyn y diwrnod ymadael;

ystyr “cyfnod cydnabod Swisaidd” (“Swiss recognition period”) yw’r cyfnod o bedair blynedd sy’n dechrau â’r diwrnod ymadael;

ystyr “cyfnod trosiannol ymarferwyr sydd ar ymweliad” (“visiting practitioner transitional period”) yw—

(a)   y cyfnod o bum mlynedd sy’n dechrau â’r diwrnod ymadael (gweler Erthygl 23(1) o’r cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd), neu

(b)   os yw’r cyfnod hwnnw yn cael ei estyn yn unol ag Erthygl 23(2) o’r Cytundeb hwnnw, y cyfnod hwnnw fel y’i hestynnir;

mae i “cymhwyster perthnasol” yr ystyr a roddir i “relevant qualification” ym mharagraff 48A o Atodlen 1 i Reoliadau 2019;

ystyr “cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd” (“Swiss citizens’ rights agreement”) yw’r Cytundeb a lofnodwyd yn Bern ar 25 Chwefror 2019 rhwng Teyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon a Chydffederasiwn y Swistir ar hawliau dinasyddion yn dilyn ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd, a’r cytundeb ar symudiad rhydd personau;

ystyr “Gwladwriaeth Ewropeaidd berthnasol” (“relevant European State”) yw Gwladwriaeth AEE neu’r Swistir;

ystyr “y Gyfarwyddeb” (“the Directive”) yw Cyfarwyddeb 2005/36/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor ddyddiedig 7 Medi 2005 ar gydnabod cymwysterau proffesiynol, fel yr oedd yn cael effaith yn union cyn y diwrnod ymadael;

ystyr “hen Reoliadau 2007” (“the old 2007 Regulations”) yw Rheoliadau’r Cymunedau Ewropeaidd (Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol) 2007([3]) fel yr oeddent yn parhau i fod yn gymwys yn union cyn y diwrnod ymadael;

ystyr “Rheoliadau 2007” (“the 2007 Regulations”) yw Rheoliadau’r Cymunedau Ewropeaidd (Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol) 2007([4]);

ystyr “Rheoliadau 2015” (“the 2015 Regulations”) yw Rheoliadau’r Undeb Ewropeaidd (Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol) 2015([5]) (ond gweler rheoliad 15D(4));

ystyr “Rheoliadau 2019” (“the 2019 Regulations”) yw Rheoliadau Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019([6]);

mae i “ymgeisydd cymhwysol” yr ystyr a roddir i “qualifying applicant” ym mharagraff 48A o Atodlen 1 i Reoliadau 2019([7]);

mae i “ymgeisydd perthnasol” yr ystyr a roddir i “relevant applicant” ym mharagraff 47A o Atodlen 1 i Reoliadau 2019([8]);

ystyr “ymgeisydd Swisaidd” (“Swiss applicant”) yw person—

(a)   sy’n wladolyn o’r Deyrnas Unedig neu sydd, er nad yw’n wladolyn o’r fath, yn rhinwedd hawl UE orfodadwy â hawlogaeth i beidio â chael ei drin, at ddibenion mynediad at waith cymdeithasol, neu waith fel rheolwr gofal cymdeithasol, neu ddilyn y gwaith hwnnw, yn llai ffafriol na gwladolyn o’r fath, neu

(b)   sy’n wladolyn o’r Swistir neu sydd, er nad yw’n wladolyn o’r fath, yn rhinwedd hawl UE orfodadwy â hawlogaeth i beidio â chael ei drin, at ddibenion mynediad at waith cymdeithasol, neu waith fel rheolwr gofal cymdeithasol, neu ddilyn y gwaith hwnnw, yn llai ffafriol na gwladolyn o’r fath.

(2) Yn y Rheoliadau hyn (ac eithrio yn rheoliad 15D), mae unrhyw gyfeiriad at Reoliadau 2015 (neu at unrhyw ddarpariaeth yn y Rheoliadau hynny) yn cynnwys cyfeiriad at Reoliadau 2007 (neu at unrhyw ddarpariaeth gyfatebol yn y Rheoliadau hynny), i’r graddau y mae Rheoliadau 2007 yn parhau (neu, cyn y diwrnod ymadael, yr oeddent yn parhau) i fod yn gymwys yn rhinwedd rheoliad 78 o Reoliadau 2015 neu reoliad 155 o Reoliadau Cymwysterau Ewropeaidd (Proffesiynau Iechyd a Gofal Cymdeithasol) 2016([9]) neu gan Ran 3 o Atodlen 1 i Reoliadau 2019([10]).”

Mewnosod arbediad cyffredinol mewn cysylltiad â chamau gweithredu a gymerir etc. cyn y diwrnod ymadael

4. Ar ôl rheoliad 15A (fel y’i mewnosodir gan reoliad 3)—

Camau gweithredu a gymerir, penderfyniadau a wneir etc. cyn y diwrnod ymadael: arbediad cyffredinol

15B. Nid yw’r diwygiadau a wneir gan Ran 1 i Ddeddf 2016 yn effeithio ar ddilysrwydd unrhyw gam gweithredu a gymerir, unrhyw benderfyniad a wneir, neu unrhyw hawl a gronnir, cyn y diwrnod ymadael o dan y Ddeddf honno, ac eithrio fel y’i darperir gan unrhyw ddarpariaeth arbed gymwysadwy neu unrhyw ddarpariaeth drosiannol gymwysadwy a wneir gan y Rhan hon.

Mewnosod darpariaethau o ran triniaeth gyfartal a chydweithredu gweinyddol

5. Ar ôl rheoliad 15B (fel y’i mewnosodir gan reoliad 4)—

Triniaeth gyfartal a chydweithredu gweinyddol o dan y cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd

15C.—(1) Wrth ymdrin ag ymgeisydd perthnasol sy’n dilyn gwaith cymdeithasol neu waith fel rheolwr gofal cymdeithasol yng Nghymru yn unol â’r ddarpariaeth arbed a wneir yn rheoliad 17 (gweithwyr cymdeithasol sydd ar ymweliad a rheolwyr gofal cymdeithasol sydd ar ymweliad: arbed yr hen gyfraith) mewn perthynas ag unrhyw fater, rhaid i Ofal Cymdeithasol Cymru beidio â thrin y person hwnnw yn llai ffafriol nag y byddai’n trin ymgeisydd brodorol (o fewn ystyr “native applicant” yn rheoliad 2 o hen Reoliadau 2007) sy’n dilyn gwaith cymdeithasol neu waith fel rheolwr gofal cymdeithasol yng Nghymru mewn perthynas â’r mater hwnnw.

(2) Pan fo unigolyn yn darparu gwasanaethau a fyddai’n gyfystyr, pe baent yn cael eu darparu yn y Deyrnas Unedig, â gwaith cymdeithasol neu waith fel rheolwr gofal cymdeithasol ar sail dros dro ac achlysurol yn y Swistir yn unol ag Erthygl 23 o’r cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd, rhaid i Ofal Cymdeithasol Cymru gydweithredu â’r awdurdod cymwys priodol yn y Swistir a rhoi iddo unrhyw wybodaeth sy’n berthnasol i gyfreithlondeb ymsefydliad ac ymddygiad da yr unigolyn, yn ogystal ag absenoldeb unrhyw sancsiynau disgyblu neu droseddol o natur broffesiynol, yn unol â’r ddarpariaeth gwybodaeth ymarfer.

(3) Pan fo unigolyn wedi gwneud neu’n gwneud cais sy’n dod o fewn Erthygl 31(1) neu 32(1) neu (5) o’r cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd i awdurdod cymwys yn y Swistir i gymhwyster proffesiynol a ddyfernir neu a gydnabyddir gan Ofal Cymdeithasol Cymru gael ei gydnabod, rhaid i Ofal Cymdeithasol Cymru—

(a)   cydweithredu â’r awdurdod cymwys yn y Swistir neu’r unigolyn (yn ôl y digwydd), yn unol â’r ddarpariaeth cydweithredu cyffredinol, a

(b)   cyfnewid gwybodaeth â’r awdurdod cymwys yn y Swistir ynghylch camau disgyblu a gymerwyd neu sancsiynau troseddol a osodwyd, neu unrhyw amgylchiadau difrifol penodol sy’n debygol o arwain at ganlyniadau wrth i’r unigolyn hwnnw ddilyn gweithgareddau proffesiynol.

(4) Rhaid i Ofal Cymdeithasol Cymru gyfnewid gwybodaeth at ddibenion paragraffau (2) a (3) yn unol â’r ddeddfwriaeth diogelu data o fewn ystyr “the data protection legislation” yn adran 3(9) o Ddeddf Diogelu Data 2018([11]).

(5) Yn y rheoliad hwn—

ystyr “y ddarpariaeth cydweithredu cyffredinol” (“the general cooperation provision”) yw rheoliad 5(2) i (7) o hen Reoliadau 2007 i’r graddau y mae’n gymwys mewn perthynas â Gofal Cymdeithasol Cymru;

ystyr “y ddarpariaeth gwybodaeth ymarfer” (“the practice information provision”), mewn perthynas â Gofal Cymdeithasol Cymru, yw—

(a)   i’r graddau y mae’n gymwys, reoliad 5(2), (3) a (4) o hen Reoliadau 2007,

(b)   adran 159 o Ddeddf 2016 (datgelu gwybodaeth am addasrwydd i ymarfer).

(6) I’r graddau y mae’r ddarpariaeth cydweithredu cyffredinol a’r ddarpariaeth gwybodaeth ymarfer yn gymwys, yn rhinwedd y rheoliad hwn, i Ofal Cymdeithasol Cymru, mae hen Reoliadau 2007 i’w darllen fel pe baent wedi eu haddasu fel a ganlyn—

(a)   ystyr “competent authority” (“awdurdod cymwys”) o ran y Swistir yw corff yn y Swistir sy’n awdurdod cymwys at ddibenion rheoliad 4(4) o hen Reoliadau 2007;

(b)   mae’r tabl yn Rhan 1 o Atodlen 1 i hen Reoliadau 2007 (proffesiynau rheoleiddiedig: proffesiynau a reoleiddir gan awdurdod cyfraith neu awdurdod cyhoeddus) yn cael effaith yn ddarostyngedig i’r addasiadau a ganlyn—

                       (i)  yn y golofn gyntaf, mae’r cyfeiriad at “social worker in Wales” yn cael effaith fel pe bai “social worker or social care manager in Wales” wedi ei roi yn ei le,

                      (ii)  yn yr ail golofn, mae’r cyfeiriad at “Care Council for Wales” yn cael effaith fel pe bai “Social Care Wales” wedi ei roi yn ei le.

Cydweithredu gweinyddol o dan gytundeb hawliau dinasyddion EFTA yr AEE

15D.—(1) Pan fo unigolyn wedi gwneud cais, cyn y diwrnod ymadael, o dan Erthygl 26 o gytundeb hawliau dinasyddion EFTA yr AEE i awdurdod cymwys yng Ngwlad yr Iâ, Norwy neu Liechtenstein i gymhwyster proffesiynol a ddyfernir neu a gydnabyddir gan Ofal Cymdeithasol Cymru gael ei gydnabod, rhaid i Ofal Cymdeithasol Cymru—

(a)   cydweithredu â’r awdurdod cymwys neu’r ganolfan gynhorthwy yng Ngwlad yr Iâ, Norwy neu Liechtenstein, neu â’r unigolyn (yn ôl y digwydd), yn unol â’r ddarpariaeth cydweithredu cyffredinol, a

(b)   cyfnewid gwybodaeth â’r awdurdod cymwys neu’r ganolfan gynhorthwy yng Ngwlad yr Iâ, Norwy neu Liechtenstein ynghylch camau disgyblu a gymerwyd neu sancsiynau troseddol a osodwyd, neu unrhyw amgylchiadau difrifol penodol eraill sy’n debygol o arwain at ganlyniadau wrth i’r unigolyn hwnnw ddilyn gweithgareddau proffesiynol.

(2) Rhaid i Ofal Cymdeithasol Cymru gyfnewid gwybodaeth at ddibenion paragraff (1) yn unol â’r ddeddfwriaeth diogelu data o fewn ystyr “the data protection legislation” yn adran 3(9) o Ddeddf Diogelu Data 2018.

(3) Yn y rheoliad hwn—

ystyr “cytundeb hawliau dinasyddion EFTA yr AEE” (“EEA EFTA citizens’ rights agreement”) yw’r Cytundeb a lofnodwyd yn Llundain ar 2 Ebrill 2019 rhwng Gwlad yr Iâ, Tywysogaeth Liechtenstein, Teyrnas Norwy a Theyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon ar drefniadau ynghylch hawliau dinasyddion yn dilyn ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd a Chytundeb yr AEE (fel y’i haddesir o bryd i’w gilydd yn unol ag unrhyw ddarpariaeth ynddo);

ystyr “y ddarpariaeth cydweithredu cyffredinol” (“the general cooperation provision”) yw—

(a)   rheoliad 5(2), (4) a (5) o Reoliadau 2015, fel y’i haddesir gan baragraff 44(4)(b) o Atodlen 1 i Reoliadau 2019([12]),

(b)   rheoliad 5(3) o Reoliadau 2015,

i’r graddau y maent yn gymwys mewn perthynas â Gofal Cymdeithasol Cymru;

ystyr “Rheoliadau 2015” (“the 2015 Regulations”) yw Rheoliadau’r Undeb Ewropeaidd (Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol) 2015 fel yr oeddent yn cael effaith yn union cyn y diwrnod ymadael.

(4) At ddibenion cymhwyso’r ddarpariaeth cydweithredu cyffredinol i Ofal Cymdeithasol Cymru yn rhinwedd y rheoliad hwn—

(a)   ystyr “awdurdod cymwys”, o ran Gwlad yr Iâ, Norwy a Liechtenstein, yw corff yng Ngwlad yr Iâ, Norwy neu, yn ôl y digwydd, Liechtenstein sy’n awdurdod cymwys at ddibenion Rheoliadau 2015 (gweler paragraff (b) o’r diffiniad o “competent authority” yn rheoliad 2(1) o’r Rheoliadau hynny);

(b)   mae’r tabl yn Rhan 1 o Atodlen 1 i Reoliadau 2015 i’w ddarllen fel pe bai’r cyfeiriad at “Care Council for Wales” yn yr ail golofn o’r tabl yn Rhan 1 o Atodlen 1 i’r Rheoliadau hynny yn gyfeiriad at “Social Care Wales”.

Mewnosod rheoliad 16A

6. Ar ôl rheoliad 16, mewnosoder—

Gweithwyr cymdeithasol Swisaidd a rheolwyr gofal cymdeithasol Swisaidd sy’n cymhwyso y tu allan i Gymru

16A.—(1) Pan geir cais cofrestru oddi wrth weithiwr cymdeithasol Swisaidd neu reolwr gofal cymdeithasol Swisaidd cyn diwedd y cyfnod cydnabod Swisaidd, mae unrhyw ddarpariaeth a wneir gan Ddeddf 2016 neu o dan Ddeddf 2016 yn parhau i fod yn gymwys mewn perthynas â’r cais (gan gynnwys unrhyw apêl sy’n deillio ohono) heb y diwygiadau a wneir gan Ran 1 i’r darpariaethau sefydlu (ond yn ddarostyngedig i’r addasiadau i Ddeddf 2016 a bennir ym mharagraff (3)).

(2) Mae’r cyfeiriad ym mharagraff (1) at “y darpariaethau sefydlu” yn gyfeiriad at Ddeddf 2016 (ac eithrio’r darpariaethau a restrir yn rheoliad 17(4)).

(3) Yr addasiadau i Ddeddf 2016 a grybwyllir ym mharagraff (1) yw bod Deddf 2016 i’w darllen—

(a)   yn adran 85 (cymwysterau a geir y tu allan i Gymru – gweithwyr cymdeithasol), fel pe bai “weithiwr cymdeithasol Swisaidd” wedi ei roi yn lle “berson esempt”;

(b)   yn adran 85A (cymwysterau a geir y tu allan i Gymru – rheolwyr gofal cymdeithasol), fel pe bai “rheolwr gofal cymdeithasol Swisaidd” wedi ei roi yn lle “berson esempt”;

(c)   yn adran 90(8) (gweithwyr cymdeithasol sydd ar ymweliad o Wladwriaethau Ewropeaidd perthnasol)—

                       (i)  yn y diffiniad o “y Rheoliadau Systemau Cyffredinol”, fel pe bai “fel (a dim ond i’r graddau) y maent yn cael effaith, ar ôl y diwrnod ymadael, mewn perthynas â hawlogaeth sy’n codi mewn perthynas â chymhwyster perthnasol (o fewn yr ystyr a roddir i “relevant qualification” ym mharagraff 48A o Atodlen 1 i Reoliadau Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol (Diwygio etc.) (Ymadael â’r UE) 2019” wedi ei fewnosod ar y diwedd;”;

                      (ii)  fel pe bai’r canlynol wedi ei fewnosod yn y lle priodol—

                            “mae i “gweithiwr gofal cymdeithasol Swisaidd neu reolwr gofal cymdeithasol Swisaidd” yr ystyr a roddir yn rheoliad 16A(4) o Reoliadau Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymwysterau) (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019”;

(d)   yn adran 105 (apelau eraill: penderfyniadau a wneir o dan y Rheoliadau Systemau Cyffredinol)—

                       (i)  yn is-adran (1), fel pe bai paragraff (c) wedi ei hepgor;

                      (ii)  yn is-adran (5)(b), fel pe bai’r geiriau o “neu, yn achos” hyd at y diwedd wedi eu hepgor.

(4) Yn y rheoliad hwn—

ystyr “cais cofrestru” (“registration application”) yw cais i dderbyn i gofrestr a gynhelir yn unol ag adran 80 o Ddeddf 2016;

ystyr “gweithiwr cymdeithasol Swisaidd neu reolwr gofal cymdeithasol Swisaidd” (“Swiss social worker or social care manager”) yw ymgeisydd cymhwysol nad oedd, cyn y diwrnod ymadael, wedi gwneud cais cofrestru (ac eithrio cais o dan adran 90 neu 90A o Ddeddf 2016).

Diwygio rheoliad 17 (gweithwyr cymdeithasol sydd ar ymweliad a rheolwyr gofal cymdeithasol sydd ar ymweliad: arbed yr hen gyfraith)

7. Mae rheoliad 17 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn—

(a)     ar ôl paragraff (1), mewnosoder—

(1A) Ond ni chaiff ymgeisydd perthnasol y mae paragraff (1) yn gymwys iddo ond darparu gwasanaethau fel gweithiwr cymdeithasol neu reolwr gofal cymdeithasol am gyfnod nad yw’n hwy na chyfanswm o 90 o ddiwrnodau mewn unrhyw flwyddyn galendr.;

(b)     yn lle paragraff (2) rhodder—

(2) Er gwaethaf y diwygiadau a wnaed gan Ran 1, mae’r darpariaethau perthnasol o Ddeddf 2016 a bennir ym mharagraff (4) yn parhau i fod yn gymwys mewn perthynas â darparu’r gwasanaethau hynny gan berson y mae paragraff (1) yn gymwys iddo ar neu ar ôl y diwrnod ymadael, fel yr oeddent yn gymwys cyn y diwrnod hwnnw, ond yn ddarostyngedig—

(a)   i’r addasiadau a bennir yn rheoliad 18(1) (dehongli darpariaethau sydd wedi eu harbed);

(b)   yn achos ymgeisydd perthnasol, i’r addasiadau a bennir ym mharagraffau (1) a (2) o reoliad 18.;

(c)     ar ôl paragraff (3), mewnosoder—

(4) Y darpariaethau perthnasol o Ddeddf 2016 yw—

(a)   yn adran 66(1) (dehongli Rhannau 3 i 8), y diffiniadau o “gwladolyn”, “Gwladwriaeth Ewropeaidd berthnasol”, “person esempt”, “rhan gweithwyr cymdeithasol Ewropeaidd sydd ar ymweliad”, “rhan rheolwyr gofal cymdeithasol Ewropeaidd sydd ar ymweliad” ac “y Rheoliadau Systemau Cyffredinol”;

(b)   adran 74(3) (rheolau: ffioedd);

(c)   yn adran 80, is-adrannau (1)(c) a (d), (2)(c) a (d) a (3)(c) a (d) (y gofrestr);

(d)   adran 90 (gweithwyr cymdeithasol sydd ar ymweliad o Wladwriaethau Ewropeaidd perthnasol);

(e)   adran 90A (rheolwyr gofal cymdeithasol sydd ar ymweliad o Wladwriaethau Ewropeaidd perthnasol);

(f)   adran 105 (apelau eraill: penderfyniadau a wneir o dan y Rheoliadau Systemau Cyffredinol);

(g)   adran 113(3) i (5) (datblygiad proffesiynol parhaus).

Diwygio rheoliad 18 (dehongli darpariaethau sydd wedi eu harbed gan reoliad 17(2))

8.(1)(1) Mae rheoliad 18 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2) Daw testun cyfredol y rheoliad yn baragraff (1).

(3) Ym mharagraff (1)(a)(ii), yn y diffiniad o “y Rheoliadau Systemau Cyffredinol” yn union o flaen “yw” mewnosoder “(ac eithrio yn y diffiniad hwnnw fel y mae wedi ei arbed gan reoliad 16A)”.

(4) Ar ôl paragraff (1)(a)(ii) mewnosoder—

(iii)  mae is-adran (8) i’w darllen hefyd fel pe bai “nad oedd, yn union cyn y diwrnod ymadael” wedi ei roi yn lle “nad yw” yn y diffiniad o “gwladolyn”.

(5) Ar y diwedd, mewnosoder—

(2) I’r graddau y mae’r darpariaethau pellach a ganlyn o Ddeddf 2016 yn parhau i fod yn gymwys yn achos ymgeisydd perthnasol yn rhinwedd rheoliad 17(2)(b), maent yn gymwys â’r addasiadau a ganlyn—

(b)   mae adran 90 (gweithwyr cymdeithasol sydd ar ymweliad o Wladwriaethau Ewropeaidd perthnasol) i’w darllen fel pe bai’r canlynol wedi ei roi yn lle is-adran (1)—

(1) Mae’r adran hon yn gymwys i ymgeisydd perthnasol (o fewn yr ystyr a roddir i “relevant applicant” ym mharagraff 47A o Atodlen 1 i Reoliadau Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol (Diwygio etc.) (Ymadael â’r UE) 2019) (“V”) sydd wedi ei sefydlu’n gyfreithlon yn y Swistir, fel gweithiwr cymdeithasol.;

(b)   mae adran 90A (rheolwyr gofal cymdeithasol sydd ar ymweliad o Wladwriaethau Ewropeaidd perthnasol) i’w darllen fel pe bai’r canlynol wedi ei roi yn lle is-adran (1)—

(1) Mae’r adran hon yn gymwys i ymgeisydd perthnasol (o fewn yr ystyr a roddir i “relevant applicant” ym mharagraff 47A o Atodlen 1 i Reoliadau Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol (Diwygio etc.) (Ymadael â’r UE) 2019) (“V”) sydd wedi ei sefydlu’n gyfreithlon yn y Swistir, fel rheolwr gofal cymdeithasol.;

(c)   mae adran 113 (datblygiad proffesiynol parhaus) i’w darllen fel pe bai “Swistir” wedi ei roi yn lle “Wladwriaeth Ewropeaidd” hyd at y diwedd yn is-adran (5).

 

 

 

Enw

Y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

Dyddiad

 



([1])           2018 p. 16.

([2])           O.S. 2019/761 (Cy. 144).

([3])           Roedd O.S. 2007/2781 yn parhau i fod yn gymwys cyn y diwrnod ymadael yn rhinwedd rheoliad 78 o O.S. 2015/2059 a rheoliad 115 o O.S. 2016/1030.

([4])           O.S. 2007/2781.

([5])           O.S. 2015/2059.

([6])           O.S. 2019/312.

([7])           Mae paragraff 48A wedi ei fewnosod yn Atodlen 1 i Reoliadau Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019 (“Rheoliadau 2019”) gan Reoliadau Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol (Gwladwriaethau EFTA) (Diwygiadau Amrywiol) (Ymadael â’r UE) 2019 (“y Rheoliadau Gwladwriaethau EFTA”) [mewnosoder rhif yr OS].

([8])           Mae paragraff 47A wedi ei fewnosod yn Atodlen 1 i Reoliadau 2019 gan y Rheoliadau Gwladwriaethau EFTA.

([9])           O.S. 2016/1030.

([10])         Mae Atodlen 1 yn diwygio Rheoliadau’r Cymunedau Ewropeaidd (Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol) 2007 (O.S. 2007/2781) a Rheoliadau’r Undeb Ewropeaidd (Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol) 2015 (O.S. 2015/2059) ac yn cynnwys darpariaethau arbed a darpariaethau trosiannol sy’n ymwneud â phob un o’r offerynnau hynny. Dirymwyd O.S. 2007/2781 gydag arbedion gan O.S. 2015/2059 a chan O.S. 2019/312. Mae O.S. 2015/2059 wedi ei ddiwygio gan baragraff 389 o Atodlen 19 i Ddeddf Diogelu Data 2018 (p. 12), a chan O.S. 2016/696, 1094 ac 1030, 2018/838 ac 1101 a 2019/89 a 312.

([11])         2018 p. 12.

([12])         Mae paragraff 44(4) wedi ei amnewid gan Reoliadau Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol (Gwladwriaethau EFTA) (Diwygiadau Amrywiol) (Ymadael â’r UE) 2019.